Cwmni Dosbarthu Bocsys Bwyd o Gymru

Ryseitiau organig wedi eu dewis gennych chi, a’u danfon atoch gan Swperbox

Croeso i Swperbox CBC. Ni yw cwmni dosbarthu bocsys prydau bwyd Cymru. Ganed Swperbox i fynd i’r afael ag effaith hirdymor pandemig y coronafeirws yma yng Nghymru, yn creu gyrfaoedd cynaliadwy, yn buddsoddi mewn addysg fwyd gymunedol ac yn cefnogi rhwydwaith o Gynhyrchwyr Bwyd o Gymru i wella diogelwch bwyd.

Rydyn ni’n creu, cynhyrchu a dosbarthu Bocsys Prydau Bwyd Modern, Cyffrous a Swper-flasus ar hyd a lled De a Gorllewin Cymru.

Rydyn ni’n credu mewn dull cydweithredol o fynd i’r afael â rhai o’r heriau Economaidd ac Amgylcheddol sydd o’n blaenau.

Geiriau a gweithredu, darparu cynnyrch a gwasanaeth gwych ond hefyd yn helpu i gefnogi ein cwsmeriaid drwy roi mynediad iddyn nhw at gynhwysion ffres, maethlon a modern. Ein harwain at ddewisiadau bwyd a diet atgynhyrchiol sy’n gofalu am ein cymunedau a’r blaned.

Y pen-gogyddion o Gymru, Alex Cook a Stuart Crichton, gafodd y syniad am Swperbox. Bu’r ddau gyda Pink Peppercorn Food Co. gynt, ac maen nhw wedi ennill gwobrau cenedlaethol am eu Ryseitiau Cymreig a Rhyngwladol Modern – yn eu plith, gwobrau Pencampwyr Bwyd Stryd Cymru, Prif Bryd Gorau Gwobrau Bwyd Stryd Prydain, Gwobrau Bwyd Da, Gwobrau Busnes y Gorau o Gymru, Gwobrau Busnes Cychwynnol y Flwyddyn Cymru.

Pam

Gyda’n gwaith wedi ei gyfyngu ddiwedd mis Mawrth 2020, ganwyd y syniad o focs tanysgrifio ryseitiau Cymreig fel ffordd o ddarparu cyflogaeth leol yn ogystal â chefnogi ein ffermydd, pysgodfeydd a chyflenwyr bwyd bach sy’n gweithio mor galed.

  • Rydyn ni’n gwybod bob pobl yn ein cymunedau angen swyddi cynaliadwy, hyfforddiant ac addysg fwyd.
  • Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar fwydydd Cymreig lleol, ffres, maethlon ac iach a bod diogelwch bwyd yn bwysig iddyn nhw.
  • Rydyn ni’n gwybod ein bod ni i gyd am gefnogi Pysgota, Ffermio ac Amaethyddiaeth Gynaliadwy yng Nghymru.
  • Rydyn ni’n gwybod bod ein cwsmeriaid am brynu cynnyrch sy’n effeithio’n gadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd a’r gymuned leol.
  • Rydyn ni’n gwybod bod angen i ni ailadeiladu ein cenedl i greu Cymru Iachach, Gyfoethocach a Gwyrddach.

Bwyta’n Dda, Byw’n Dda

Ein cenhadaeth yw darparu ryseitiau hawdd sy’n creu prydau maethlon a modern yn gyson gydag o leiaf ddau o’ch 5-y-dydd. Ochr yn ochr â chreu bocsys bwyd organig sy’n cael eu mwynhau’n fawr gan y Cymry, rydyn ni am greu swyddi a chadwyni cyflenwi sy’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol ledled Cymru. Ynghyd â hyn, rydyn ni’n buddsoddi mewn rhaglenni cymunedol ac yn cefnogi amaethyddiaeth leol ac arallgyfeirio, gyda’r weledigaeth o roi yn ôl a helpu eraill i fyw’n fwy cynaliadwy.

“ Rydyn ni’n gweithio gyda chi i greu Cymru Iachach, Gyfoethocach a Gwyrddach…”

Alex Cook

Sut

Gwybodaeth ar y cyd am brydau bwyty blasus a maeth yw’r man cychwyn. Wedyn rydyn ni’n troi hyn yn ryseitiau blasus llawn maeth, gyda bwyd tymhorol wrth galon y cyfan. Wedyn mae’r ryseitiau iach hyn yn cael eu hysgrifennu mewn ffordd hawdd ei deall a’i dilyn, cyn dod o hyd i ffynonellau lleol ar gyfer y cynnyrch lle bynnag y bo’n bosibl. Caiff hyn oll ei drawsnewid yn becynnau coginio cartref gaiff eu dosbarthu’n bersonol bob wythnos.

Ein Moeseg

Bod yn lleol ac yn dymhorol yw’r egwyddorion sy’n ei harwain. Mae bod yn dymhorol yn golygu y gallwn ddod o hyd i’n cynhwysion yn lleol, gan helpu ein heconomi ein hunain. Daw tua 90% o’n cynhwysion o’r DU, a’r mwyafrif llethol o Gymru ei hun. Mae hyn yn golygu bod ein ryseitiau organig yn ffres, yn flasus iawn ac yn llawn dop o faeth.

Mae ein pysgod i gyd yn cael eu dal yn nyfroedd Prydain ac wedi eu hardystio gan yr MSC. Mae ein cig eidion yn dod o wartheg wedi eu bwydo’n gyfan gwbl ar borfa. Mae ein Porc a’n Cyw Iâr yn dod o foch ac ieir buarth ac rydyn ni’n cefnogi bridiau treftadaeth fel Gwartheg Duon Cymreig lle bynnag y bo’n bosibl.

Cefnogi Cyflenwyr Lleol

Ffermydd teuluol neu fusnesau bach yw ein cyflenwyr, y mwyafrif yng Ngorllewin Cymru, a’r ffocws yw defnyddio technegau newydd arloesol wedi’u cyfuno â dulliau ffermio traddodiadol isel eu traweffaith, ac arallgyfeirio cynhwysion sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Rydyn ni’n canolbwyntio ar rawn treftadaeth fel Pys Carlin a Quinoa a Ffacbys wedi eu tyfu ym Mhrydain er mwyn lleihau ein hôl troed carbon a’n milltiroedd bwyd yn ddirfawr.

Cymru’n Gyntaf

Mae’r diwydiant ffermio yn rhan helaethaf y DU dan bwysau aruthrol wrth i fwy o bobl symud i’r dinasoedd ar gyfer swyddi, ac mae 80% o dir Cymru yn cael ei ystyried yn ‘llai ffafriol’ ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae Swperbox yn ymwneud ag arallgyfeirio arferion ffermio a buddsoddi mewn ffermydd a busnesau lleol i wella ein cynhyrchiant bwyd cynaliadwy gan arwain at genedl werddach ac iachach.

Pys Plîs

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y manteision iechyd i ni fel defnyddwyr ac ar yr effaith amgylcheddol y gall diet sy’n ffocysu mwy ar lysiau ei chael ar y blaned

Rydyn ni wedi ymuno â’r ymgyrch Pys Plîs sydd â’r nod o gynyddu faint o ffrwythau a llysiau sy’n cael eu bwyta. Mae hynny ar lefelau 1970 ar gyfartaledd ar hyn o bryd, ac yn is nag ar unrhyw adeg ers dechrau ymgyrch 5-y-dydd y llywodraeth.

Ailgylchu a Chompostio

Mae 100% o’n plastig yn Garbon Niwtral a naill ai’n gallu cael ei ailgylchu neu’n blastig sydd wedi ei greu o blanhigion ac sy’n gallu cael ei gompostio gartref. Rydyn ni’n labelu ein plastigau i gyd i’w gwahaniaethu er hwylustod i chi. Mae ein cig, pysgod a chynnyrch llaeth yn cael eu lapio mewn cydau Wool CoolTM sy’n defnyddio gwlân o ffermydd defaid Cymru a phecyn iâ y gellir ei ailddefnyddio. Rydyn ni’n eich annog i ddychwelyd hwn gyda’ch bocs cardbord y byddwn yn ei gasglu bob wythnos pan fyddwn yn gollwng eich bocsys nesaf am ddim.

Rydyn ni’n deall bod busnes ailgylchu a chompostio plastigau’n esblygu’n gyson gyda chynnyrch newydd yn dod i’r amlwg drwy’r amser, felly byddwn yn parhau i ailasesu hyn ac yn rhoi’r cynnyrch mwyaf cynaliadwy a charbon niwtral i chi wrth iddyn nhw ddod i’r fei.