Yr hyn mae bod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol yn ei olygu i ni
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) yn gwmni sydd wedi’i sefydlu’n benodol ar gyfer rhai sydd am ddefnyddio’u helw a’u hasedau er da. Nid oes gan CBCau randdeiliaid, ac nid oes ganddyn nhw hawl i gael rhai, felly mae unrhyw wargedion yn cael eu hailfuddsoddi yn y busnesau neu’r cymunedau lleol, sy’n golygu bod ganddyn nhw rôl wahanol a gwerthfawr i’w chwarae o ran helpu i greu economi gref, gynaliadwy a chymdeithasol gynhwysol, gan ganolbwyntio ar ddiben cymdeithasol penodol yn hytrach na gwneud elw er budd personol.
Cefnogi’r Diwydiant Bwyd Cynaliadwy
Mae angen i CBCau gyfiawnhau eu statws drwy ddatgan sut y byddan nhw o fudd i’r gymuned. Yma yn Swperbox bydd ein buddsoddiad yn cael ei ddyrannu gan y bwrdd cyfarwyddwyr i CBCau lleol eraill neu i brynu neu brydlesu tir i ddatblygu amaethyddiaeth wedi ei chefnogi gan y gymuned a sicrhau cynaliadwyedd y busnes er budd y gymuned leol. Yn ogystal â datblygu cronfa i gynorthwyo entrepreneuriaid y diwydiant bwyd cynaliadwy, gan gynnwys arloesi o ran pecynnu bwyd cynaliadwy a phrosiectau economi gylchol cadarnhaol.
Rydyn ni’n sicr ein barn y gallwn helpu i greu model busnes mwy cynaliadwy yng Nghymru, yn arwain at system cynhyrchu bwyd fwy amrywiol a mwy o ddiogelwch bwyd, a chenedl iachach, gyfoethocach a gwyrddach.
Ryseitiau Fforddiadwy, Blasus ac Iach i Bawb
Bydd hyn hefyd yn cynnwys darparu prydau maethol cost isel ar gyfer teuluoedd incwm isel ac agored i niwed yn ein cymuned a chynnal gweithdai bwyd i addysgu pobl sut i baratoi bwyd iach, blasus a chynaliadwy yn hawdd a gwneud penderfyniadau prynu gwell. Rydyn ni’n canolbwyntio ar greu model busnes cynaliadwy a fydd yn cyflawni’r nod hwn.