Angen cysylltu?

Mynnwch gip ar y cwestiynau cyffredin isod cyn ffonio neu e-bostio (mesur dros dro yw hwn oherwydd bod cynifer o ymholiadau’n cyrraedd).

Ydw i’n gallu archebu bocsys ar gyfer anwyliaid?
Ydych – gallwch eu cofrestru ar eu rhan i’n gwasanaeth tanysgrifio hyblyg. Fel arall, gallwch anfon un o’n prydau iach wedi eu paratoi gan ein pen-gogyddion ac wedi eu rhewi atyn nhw. Cwblhewch eich archeb gyda’u cyfeiriad nhw – fydd dim problem bod y cyfeiriad dosbarthu yn wahanol i’ch cyfeiriad bilio.
Ydw i’n gallu dewis fy ryseitiau ymlaen llaw?

Ydych – wedi i chi gofrestru, gallwch ddewis eich ryseitiau hyd at 3 wythnos cyn eich dyddiad derbyn yma.

Ddim yn gwsmer eto? Bydd angen i chi ddewis eich dyddiad derbyn a’ch ryseitiau ar gyfer eich bocs cyntaf yma cyn i chi gofrestru.

Sut ydw i’n talu?

Pan wnaethoch chi osod eich archeb gyntaf, gwnaethoch gofrestru ar gyfer danfoniadau wythnosol a bydd y taliad yn cael ei gymryd yn awtomatig 4 diwrnod cyn eich dyddiad derbyn nesaf (7 diwrnod ar ôl i’ch bocs cyntaf gyrraedd).

Gallwch newid eich ryseitiau, cyfeiriad derbyn, manylion bilio a thanysgrifiad ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i’ch cyfrif yma.

Ydw i’n gallu archebu tocyn rhodd?
Ydych – gallwch archebu tocyn rhodd o siop Swperbox yma. Gan fod ein staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd, ni allwn anfon cerdyn go iawn, a byddwn yn anfon y tocyn rhodd atoch drwy e-bost yn lle.
Ydw i’n gallu newid faint o ryseitiau rwy’n eu derbyn neu faint y dognau?

Ydych – i newid nifer y bobl rydych chi’n archebu ar eu cyfer, mewngofnodwch i’ch cyfrif. ac ewch i Fy Nhanysgrifiad, yna cadwch eich dewisiadau.

Gallwch newid faint o ryseitiau rydych chi’n eu derbyn naill ai drwy fewngofnodi a dewis ryseitiau ychwanegol ar gyfer dosbarthiad penodol, neu drwy newid eich Dewisiadau Archeb yma.

Methu dod o hyd i’r hyn roeddech chi’n chwilio amdano?

Ymholiadau cwsmeriaid
service@swperbox.cymru

Ymholiadau gan y cyfryngau
press@swperbox.cymru

Ymholiadau partneriaethau
partnerships@swperbox.cymru

Ymholiadau gyrfa
jobs@swperbox.cymru