Ryseitiau Hawdd ar gyfer Prydau Bwyd Di-drafferth

Mae ein pecynnau coginio cartref wedi’u cynllunio i gynnwys cymaint o flas â phosibl gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam syml a hawdd eu dilyn.

Mae’r cynhwysion i gyd yn swper-ffres, wedi’u pecynnu, eu pwyso a’u labelu er hwylustod i chi.

Rydyn ni’n gwybod bod angen coginio rhai elfennau am gyfnod hir, ein Past Pupur Harissa rhost, ein Cyfuniad Sbeisys Mecsicanaidd a’n Garlleg Du er enghraifft, felly rydyn ni’n paratoi’r rhain ar eich cyfer, gan ganiatáu i chi fwrw ymlaen â’r coginio pleserus.

Coginio canol wythnos heb y ffwdan, ac amseroedd coginio sy’n gweithio gyda’ch amserlen. Does dim angen mwy na 45 munud ar unrhyw un o’n ryseitiau

Bwydydd Tymhorol Ar Eu Gorau

Mae ein 6 rysáit wythnosol yn adlewyrchu’r newidiadau yn y tymhorau. Gyda bwyd ysgafnach yn yr haf a bwyd i gynnig cysur yn yr hydref a’r gaeaf, fyddwch chi byth yn diflasu ar eich diet amrywiol newydd.

Rydyn ni’n defnyddio llu o gynhwysion, ac fe fyddwch wrth eich bodd yn rhoi cynnig arnyn nhw, a dod o hyd i ffefryn newydd.

Bydd yr opsiynau bob wythnos yn mynd â chi ar daith drwy fwydydd y byd, ond yn ogystal â’n ryseitiau rhyngwladol, rydyn ni hefyd yn cynnig blasau cyfarwydd prydau modern o Brydain a’n fersiynau ni o’r hen glasuron.

Mae ein ryseitiau wedi’u hysbrydoli gan bedwar ban byd, ac yn paru syniadau o bob cwr o’r byd â bwydydd traddodiadol Cymreig a chynhwysion tymhorol.

Dim Contract

Dydyn ni ddim yn eich clymu wrth gontract, gallwch adael neu oedi eich tanysgrifiad unrhyw bryd. Gallwn hyd yn oed anfon i’ch lleoliad gwyliau yng Nghymru.

Ryseitiau Iach Wedi’u Creu i fod yn Addas i Bawb

Mae ein ryseitiau i gyd wedi’u cynllunio i gynnwys o leiaf 2 o’ch 5 y dydd, a darparu prydau llawn maeth i’ch teulu.

Rydyn ni’n hoffi coginio gydag amrywiaeth o rawn a chorbys, ac yn deall bod diet eang ac amrywiol yn ddewis iach y gallwn i gyd ei wneud.

Yn Swperbox, rydyn ni am i bawb allu coginio a bwyta bwyd blasus o gysur eu cegin, waeth beth yw eu gofynion dietegol.

Rydyn ni’n deall ei bod hi’n anodd weithiau ddod o hyd i wasanaethau dosbarthu prydau heb Glwten y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw. Rydyn ni’n falch iawn bod llawer o’n ryseitiau yn rhai sy’n naturiol rydd rhag Glwten ac mai dim ond cynnyrch organig, ffres maen nhw’n eu defnyddio. Rydyn ni’n paratoi llawer o’r cynhwysion yn ffres bob wythnos sy’n golygu nad ydyn ni’n defnyddio cadwolion artiffisial.

Moesegol

Mae bod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) yn golygu ein bod yn rhoi ein helw yn ôl i’r gymuned a gweithredu amgylcheddol, naill ai’n uniongyrchol, drwy fuddsoddi mewn arferion ffermio atgynhyrchiol, neu drwy fuddsoddi mewn datblygiadau newydd gyda dewisiadau plastig amgen.

Drwy Gronfa’r Loteri rydyn ni’n rhedeg rhewgell gymunedol sy’n darparu prydau parod maethlon ac uchel eu hynni, gyda’r gymuned yn gallu cael mynediad 24 awr y dydd at brydau wedi eu sybsideiddio.

Mae ein cegin yn cael ei phweru 100% gan ynni adnewyddadwy, ac rydyn ni’n prynu cynnyrch lleol i leihau milltiroedd bwyd a’r deunyddiau pacio sy’n cael eu defnyddio cyn i gynnyrch ein cyrraedd.

Mae ein deunydd pacio ‘plastig’ wedi ei wneud o blanhigion ac mae modd ei gompostio. Mae wedi’i ardystio’n Garbon Niwtral. Mae modd ailddefnyddio’r cydau WoolCool, sy’n is-gynnyrch ffermydd defaid Cymru. Mae’n inswleiddio bwyd yn wych, ac yn ein galluogi i gadw’ch bwyd yn oer ac yn y cyflwr gorau yn ystod y cyfnod cludo.

Bwyd Cynaliadwy

Mae cynaliadwyedd bwyd yn fater dadleuol. I ni, mae’n golygu hyrwyddo bioamrywiaeth drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion lleol.

Mae hyn hefyd yn helpu i arwain at fwy o ddiogelwch bwyd gan nad yw ffermwyr yn dibynnu ar gaeau enfawr o un cnwd penodol.

Mae amaethyddiaeth atgynhyrchiol yn golygu dilyn arferion ffermio sy’n helpu i ailadeiladu strwythur y pridd, gan ganiatáu iddo ddod yn ddull dal carbon, yn ogystal â lleihau ein dibyniaeth ar wrteithiau amaethyddol drwy greu pridd iachach.